PAPUR TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I’R PWYLLGOR MENTER A BUSNES - RÔL MENTRAU CYMDEITHASOL YN ECONOMI CYMRU

 

Cyflwyniad

 

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Menter a Busnes am y gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth ar faterion yn ymwneud â mentrau cymdeithasol ac i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o weithredu’r argymhellion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn eich adroddiad ar ‘Rôl Mentrau Cymdeithasol yn Economi Cymru’

 

Argymhelliad 1

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru i nodi’n strategol ardaloedd yng Nghymru lle gallai mentrau cymdeithasol chwarae rhan bwysig mewn cymunedau lleol.

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

Diweddariad – Mehefin 2012

Mae Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru (CMCC) wedi cymryd camau i adeiladu’r sylfaen o dystiolaeth am fentrau cymdeithasol yng Nghymru, ac mae’r gwaith hwn yn cynnwys nodi meysydd twf ar gyfer datblygu mentrau cymdeithasol yn y dyfodol. Mae’r CMCC wedi clustnodi cynlluniau braenaru mentrau cymdeithasol mewn ardaloedd ledled Cymru ac yn gweithio gyda hwy i edrych ar feysydd lle gellid ehangu yn y dyfodol.

Mae’r CMCC hefyd wedi cynnal cyfres o grwpiau ffocws ledled Cymru gyda’r nod o ddeall barn ac anghenion sefydliadau ar lawr gwlad a’u trosglwyddo i wneuthurwyr polisi. Mae’r grwpiau ffocws hefyd yn adeiladu darlun cenedlaethol o weithgaredd mentrau cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ategu gwaith blaenorol ar glustnodi’r ardaloedd daearyddol a’r meysydd diwydiant strategol ar gyfer twf (nodi bylchau – iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, uwch-dechnoleg ayyb).  Mae’r CMCC yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau’r grwpiau ffocws yn ystod Gorffennaf 2012.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynlluniau i sefydlu Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru. Pwrpas y Comisiwn fydd edrych ar ffyrdd o dyfu’r sector cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chyfoeth gan gefnogi nodau ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Cymru.

Argymhelliad 2

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud rhagor er mwyn creu amgylchedd syn galluogi nodi a datblygu unigolion a allai gyflawni’r rôl o entrepreneuriaid cymdeithasol a rhoi cefnogaeth barhaus iddynt.

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

Diweddariad – Mehefin 2012

Ym mis Awst 2011, sefydlodd y Gweinidog BETS y grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau i gynghori ar ddarpariaeth gwasanaethau cefnogaeth busnes i ficrofusnesau ledled Cymru yn y dyfodol. Cyhoeddwyd yr Adroddiad ar Ficrofusnesau ym mis Ionawr 2012 gan dynnu sylw at y meysydd blaenoriaeth canlynol:

Cafodd argymhellion sy’n syrthio dan bortffolio Gweinidog BETS ar gyfer bob un o’r meysydd blaenoriaeth eu derbyn ym mis Chwefror 2012.

Un o’r argymhellion dan ‘Ymwybyddiaeth a Mynediad at wasanaethau cefnogaeth busnes’ yw y dylai Lywodraeth Cymru ddatblygu rhwydwaith Siop Un Stop i gael cefnogaeth uniongyrchol / anuniongyrchol ledled Cymru. Ymysg gwasanaethau’r Siop Un Stop bydd darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor gan gynnwys cynllun Mentora a fydd yn hygyrch i bob busnes gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Bydd y gwasanaeth Siop Un Stop yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cefnogaeth busnes cyfredol i hyrwyddo mynediad ac ymwybyddiaeth o’r holl ystod o gefnogaeth sydd ar gael gan y sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector.  Bydd y gwasanaeth Siop Un Stop yn darparu cefnogaeth i Fentrau Cymdeithasol lle nad yw’r gefnogaeth eisoes yn bodoli, ac os yw’r gefnogaeth eisoes ar gael, bydd cysylltiadau gwaith agos yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod y mentrau cymdeithasol yn cael eu cyfeirio at y ddarpariaeth fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

Mae lle pendant i fentrau cymdeithasol yng Nghynllun Gweithredu’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2010-15.  Mae 79% o Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch Cymru yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgareddau sy’n hoelio sylw ar entrepreneuriaeth gymdeithasol. 

Mae Gyrfa Cymru wedi paratoi pecynnau menter sydd ar gael i ysgolion, ynghyd â hyfforddiant i athrawon a staff ysgol.  Hefyd trefnwyd cefnogaeth cyflogwyr ar gyfer pecynnau o’r fath a hyfforddiant i gynrychiolwyr y cyflogwyr.  Fodd bynnag, yn sgil llai o gyllideb bydd Gyrfa Cymru yn dileu neu leihau darpariaeth uniongyrchol o becynnau o’r fath erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon.

Mae Gwasanaeth Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru a phrosiect Mentrau Cymdeithasol Cydweithredol Cymru yn darparu cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno sefydlu mentrau cymdeithasol.  Mae’r Gwasanaeth Dechrau Busnes yn cynnwys ennyn diddordeb unigolion i hyrwyddo entrepreneuriaeth, ac yn cynnig cefnogaeth dechrau busnes penodol i unigolion o’r cam cyntaf hyd at sefydlu eu busnes. Mae hyn ar gael i fentrau cymdeithasol.

Recriwtiwyd rhwydwaith o Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Busnes i hyrwyddo entrepreneuriaeth a darparu arweiniad ar bolisïau a gwasanaethau cefnogi busnes BETS sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol.

Argymhelliad 3

Rydym yn argymell bod Gweinidogion yn diffinio lefelau’r gweithgarwch ar canlyniadau y maent am i fentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol eu cyflawni yn y dyfodol, gan gynnwys datblygu camau gweithredu manwl er mwyn gwireddu eu potensial, a phennu meincnodau i fesur a monitro effeithiolrwydd eu cyfraniadau i’r economi.

 

Ymateb Gwreiddiol: Gwrthod

 

Diweddariad -  Mehefin 2012 – Nid yw’r sefyllfa wedi newid.  Nid gosod targedau artiffisial yw’r ffordd gywir o fynd ati. Er enghraifft, efallai nad yw targedau net i gynyddu’r nifer o fentrau cymdeithasol mor fuddiol â thargedau buddsoddi i sefydliadau unigol ee nifer y swyddi a gaiff eu creu. Mae’r adroddiad sy’n mapio mentrau cymdeithasol cyfredol yn dangos effeithiolrwydd cyfraniad mentrau cymdeithasol i Economi Cymru.  Fodd bynnag, ni fyddai ‘targed’ artiffisial ar gyfer y cyfraniad hwnnw’n ddull buddiol i hyrwyddo gweithgarwch mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Argymhelliad 4

O gofio bod mentrau cymdeithasol wedi’u nodi yn astudiaeth gwmpasu Llywodraeth Cynulliad Cymru fel ffordd o gynnal busnes, a bod cyfraniad y sector wedii gydnabod yn Rhaglen Adnewyddu’r Economi y Llywodraeth, rydym yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn symud canolbwynt polisi ac atebolrwydd mentrau cymdeithasol yn y Cabinet i’r portffolio datblygu economaidd a sefydlu uned mentrau cymdeithasol unigryw o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth.

 

Ymateb Gwreiddiol:  Gwrthod

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Yn dilyn yr etholiad Mai 2011, newidiwyd Portffolio ‘Mentrau Cymdeithasol a’r Economi Gymdeithasol’ o Gyfiawnder Cymdeithasol i Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, gan ategu’r pwyslais ar fentrau cymdeithasol a chydweithredol fel busnesau. Mae tîm mentrau cymdeithasol penodol bellach yn eistedd o fewn tîm Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes o fewn Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

 

 

Argymhelliad 5

Rydym yn argymell nad ywr potensial sydd gan fentrau cymdeithasol yn cael ei weld fel modd o lyncu gwasanaethau sydd angen eu darparu’n rhatach, ond yn ffordd o ddatblygu dulliau o ddarparu gwasanaethau sy’n newydd, yn arloesol ac yn fwy effeithiol.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae’r trydydd sector yn parhau i ymwneud âr gwaith o wella effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus drwy aelodaeth o’r Grŵp Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus (PSLG), sydd bellach yn arwain y gwaith o ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus. Mae partneriaid trydydd sector hefyd yn cymryd rhan yn rhaglenni gwaith cenedlaethol y PSLG, yn arbennig drwy’r Rhaglen Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed, lle maent yn arwain prosiect Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion.

 

Swyddogaeth Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru fydd gwneud argymhellion ar gyfer datblygu a thyfu’r economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru, er mwyn creu swyddi a chyfoeth i gefnogi nodau ac uchelgais Llywodraeth Cymru.  Bydd y Comisiwn yn adrodd ar y canfyddiadau ddiwedd 2012 / dechrau 2013.  2012 yw Blwyddyn Rhyngwladol y Mentrau Cydweithredol. 

Argymhelliad 6

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod adrannau’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol yn gwbl eglur ynghylch sut mae trosglwyddo asedau.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cytuno y dylai’r Cyngor Partneriaeth Trydydd Sector ddatblygu ffrwd waith yn edrych ar briodoldeb y protocol Tir a mynediad at y gronfa ddata eiddo lle mae’r protocol. Fel rhan o’r ffrwd waith hon, dewiswyd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr fel cynllun peilot ffurfiol cyntaf  dal data, i brofi’r defnydd o’r gronfa ddata eiddo mewn amgylchedd fyw, ac mae Merthyr wedi cytuno i fod yn ail gynllun peilot. Cyn hir bydd Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) yn cael eu gwahodd i asesu effeithiolrwydd y defnydd o’r protocol trosglwyddo tir ar gyfer sefydliadau’r sector.

 

Mae’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Cronfa Loteri Fawr ac yn ceisio grymuso cymunedau drwy hwyluso’r gwaith o drosglwyddo asedau sector cyhoeddus, fel tir ac adeiladau i sefydliadau trydydd sector. Yn gweithio gyda’i gilydd i ariannu’r rhaglen ar y cyd, mae Llywodraeth Cymru a Cronfa Loteri Fawr wedi datblygu cronfa gwerth £13 miliwn sy’n gosod hyd at £500k o arian cyfalaf a hyd at £300k o arian refeniw ar gael i sefydliadau sy’n ceisio trosglwyddo a datblygu asedau er lles y gymuned.

 

Hyd yma mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol wedi dyfarnu £7.525 miliwn o nawdd i ddeg prosiect.  Cefnogwyd pum prosiect gwerth £3.699 miliwn yn Rownd 1 (Llwybr Carlam) a phum prosiect arall gwerth £3.825 yn Rownd 2.   Bydd ceisiadau Rownd 3 (y rownd derfynol) yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn Mehefin.

Argymhelliad 7

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn comisiynu gwaith ymchwil i effaith economaidd-gymdeithasol mentrau cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys adborth gan staff o fewn y sefydliadau hynny a chleientiaid sy’n derbyn y gwasanaethau.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd Canolfan Cydweithredol Cymru adroddiad o’r enw ‘Menter Gymdeithasol yng Ngwasanaeth y Cyhoedd’.  Mae’r adroddiad yn edrych ar fanteision a rhwystrau gweithio gyda mentrau cymdeithasol wrth ategu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n cynnwys naw astudiaeth achos ysgogol o fentrau cymdeithasol o bob cwr o Gymru sy’n gweithio mewn amrywiol sectorau gwasanaethau cyhoeddus.  Mae ‘Menter Gymdeithasol yng Ngwasanaeth y Cyhoedd’ yn cynnig nifer o argymhellion ar gyfer y tri rhanddeiliad allweddol sef mentrau cymdeithasol, comisiynwyr sector cyhoeddus, a Chanolfan Cydweithredol Cymru / asiantaethau cefnogaeth sector. Mae’r argymhellion yn feiddgar ac yn benodol, yn galw am:

 

·         fabwysiadu ffordd ddeallus o gomisiynu;

·         ffocws cliriach ar ganlyniadau gwasanaethau cyhoeddus;

·         clustnodi’r lefel a graddfa fwyaf priodol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Argymhelliad 8

Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Gwerth Cymru, wedi gwella caffael sector cyhoeddus, ond rydym yn argymell y dylid herio pob corff cyhoeddus i wneud eu polisïau au harferion caffael yn fwy agored i fentrau cymdeithasol, a bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio â Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru i sicrhau y gall mentrau cymdeithasol gystadlu’n well am gontractau sector cyhoeddus.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Yn ddiweddar comisiynodd y Gweinidog Cyllid Adolygiad i sicrhau’r defnydd gorau o bolisi caffael Llywodraeth Cymru a chaffael cyhoeddus yng Nghymru. Comisiynwyd John McClelland i ymgymryd â’r adolygiad, sydd i’w gwblhau cyn Toriad yr Haf. Mae’r adolygiad yn un eang ac yn cynnwys mewnbwn gan gydweithwyr yn y Cabinet, uwch randdeiliaid o bob cwr o’r sector cyhoeddus a chynrychiolwyr o blith y cyflenwyr.

Argymhelliad 9

Rydym yn argymell ymhellach bod yr hyfforddiant a’r cymorth caffael mae Gwerth Cymru yn ei ddarparu yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion penodol y sector mentrau cymdeithasol, gan gynnwys darparu cymorth a fydd yn galluogi mentrau cymdeithasol i gydweithio wrth wneud cynnig am gontractau.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad -   Mehefin 2012 - Nid yw’r sefyllfa wedi newid. 

Mae Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yr Adran Busnes, Menter, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cynorthwyo mentrau cymdeithasol i dendro am gytundebau sector preifat a chyhoeddus. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer o fentrau cymdeithasol wedi tendro’n llwyddiannus am gytundebau ar ôl cymryd rhan mewn gweithdai Sut i Dendro a digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr.

Hefyd gall mentrau cymdeithasol rwydweithio gyda mentrau cymdeithasol eraill a busnesau prif ffrwd yn y gweithdai Sut i Dendro.

Argymhelliad 10

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd camau i gefnogi ac annog mentrau cymdeithasol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd caffael a ddaw o’r sector preifat

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae’r gweithdai Sut i Dendro sy’n cael eu darparu gan Wasanaeth Datblygu Cyflenwyr yr Adran Busnes Menter Technoleg a Gwyddoniaeth yn ymdrin â thendro ar gyfer cytundebau sector cyhoeddus. Yn y gweithdai hyn, cyfeirir at dendro ar gyfer cytundebau sector preifat ac mae gwaith yn y maes hwn yn effeithio ar gadwyni cyflenwi ehangach, gan gynnwys cyfleoedd yn y sector preifat.  Bydd y timau sector hefyd yn ystyried sut i elwa i’r eithaf ar gyfleoedd caffael o fewn cadwyni cyflenwi.

 

Argymhelliad 11

O gofio am lwyddiant model Glas Cymru, rydym o’r farn ei fod yn cynnig atebion i heriau strwythurol eraill. Rydym yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn parhau i archwilio’r posibilrwydd o drosglwyddo model Glas Cymru, amlygu’r mathau o gefnogaeth sydd eu hangen i lwyddo mewn sefyllfaoedd eraill, a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r model ymysg penderfynwyr allweddol.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae achos cryf dros gefnogi ffurfiau gwahanol o fentrau, fel busnesau ac wrth gefnogi darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan sefydliadau dielw fel cwmnïau cydfuddiannol, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol rhan bwysig i’w chwarae yn yr economi. Mae Glas Cymru yn fodel i sefydliadau eraill ac rydym yn sicrhau bod gan y sector cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol fynediad at gyngor busnes priodol a chadarn.

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru a Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o fentrau cymdeithasol. Mae’r gwaith hwn yn amrywiol ond nodir rhai uchafbwyntiau isod.

 

·         Yng Nghynhadledd Mentrau Cymdeithasol Cymru 2011 daeth entrepreneuriaid cymdeithasol, gwneuthurwyr polisi ac arbenigwyr rhyngwladol blaengar ynghyd i drafod sut i dyfu’r sector. Bu’r cynadleddwyr mewn sesiynau gweithdai ar faterion fel gweithio mewn partneriaeth gyda’r sectorau preifat a chyhoeddus, elwa i’r eithaf ar y cyfle i fentrau cymdeithasol fod yn rhan o broses gaffael sector cyhoeddus, gweithio gydag Addysg Uwch, datblygu consortia, strwythurau cyfreithiol a phobl ifanc mewn mentrau cymdeithasol. Dyma’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru. Roedd dros 200 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad, o’r sectorau cyhoeddus, preifat a mentrau cymdeithasol.

 

·         Seremoni Wobrwyo Mentrau Cymdeithasol Cymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod elfennau gorau mentrau cymdeithasol Cymru, ac yn helpu i hyrwyddo cyfraniad sylweddol mentrau cymdeithasol ar hyd a lled y wlad. Ymysg y categorïau mae dechreuwr y flwyddyn, arweinydd y flwyddyn a menter gymdeithasol y flwyddyn.

 

·         Derbyniad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i ddathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru, yng nghwmni Aelodau Cynulliad, ymarferwyr mentrau cymdeithasol a chydweithwyr o gyrff cefnogi mentrau cymdeithasol eraill.

 

·         Cynhaliwyd digwyddiadau i hyrwyddo gwerthoedd a buddiannau mentrau cymdeithasol ac i egluro’r effeithiau cadarnhaol ar les cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i gymunedau o bob cwr o Gymru.

 

 

Argymhelliad 12

Rydym yn argymell y dylai addysg fenter gynnwys mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaeth ac y dylid cynnwys mentrau cymdeithasol yng ngwasanaethau cynghori ar yrfaoedd a rhaglenni profiad gwaith ysgolion a phrifysgolion.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae lle pendant i fentrau cymdeithasol yng Nghynllun Gweithredu’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2010-15, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2010.  Mae 79% o Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch Cymru yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgareddau sy’n hoelio sylw ar entrepreneuriaeth gymdeithasol. 

Mae Gyrfa Cymru yn bartner yn y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid. Yn hyn o beth, mae Gyrfa Cymru’n hwyluso gweithgarwch menter gan ysgolion, yn recriwtio cyflogwyr i gefnogi gweithgarwch menter o’r fath ac yn darparu profiadau eraill sy’n canolbwyntio ar waith, megis profiad byd gwaith.

 

Pe bai menter gymdeithasol yn cynnig lleoliadau profiad gwaith, byddai hynny’n cael ei ddangos yn argaeledd lleoliadau o’r fath yn lleol. Yn 2011 daeth Cronfa Ddata Profiad Gwaith Cenedlaethol ar gael drwy Gyrfa Cymru Ar-lein, ac mae staff ysgolion yn cael eu hyfforddi i’w ddefnyddio.  Mae’n darparu adnodd i ysgolion ganfod cyfleoedd profiad gwaith addas sydd ar gael i ddisgyblion. Bydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru o fis Medi 2012 ymlaen.

Fel gweithwyr proffesiynol ym maes gyrfaoedd, nid yw cynghorwyr gyrfaoedd yn gorchymyn na chyfeirio pobl at lwybrau gyrfa penodol. Byddai Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor ar fentrau cymdeithasol fel llwybr gyrfa bosib i’r rhai sy’n mynegi ddiddordeb neu pe bai hynny’n cael ei ystyried yn opsiwn dilys i’r unigolyn hwnnw.  Byddai’r un peth yn wir ar gyfer pobl sy’n dangos diddordeb mewn sefydlu eu busnes eu hunain.

 

Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Mae Gweinidogion yn ystyried blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth a fydd yn weithredol o fis Ebrill 2013 ymlaen. Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach eleni.

 

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn bartner allweddol arall yn y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid. Mae Cronfa Arloesi ac Ymgysylltu CCAUC yn darparu arian craidd i gefnogi gweithgareddau Sefydliadau Addysg Uwch yng nghyswllt cyflawni effaith gymdeithasol ac economaidd. Mae mentrau cymdeithasol yn elwa’n gynyddol o weithgareddau Arloesi ac Ymgysylltu’r sector drwy’r gwasanaethau a ddarperir, er enghraifft, gan y Rhaglen Mewnwelediad Strategol (yr ail gam wedi’i ariannu fel gwaith ar y cyd ledled Cymru dan arweiniad Prifysgol Morgannwg), Canolfan Sgiliau Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Cymru a rhwydweithiau busnes Addysg Uwch fel Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Mae’r Gronfa hefyd yn cefnogi Rhaglen Gefnogaeth i Fentrau ledled Cymru a fydd yn datblygu ac annog mentrwyr ifanc o blith myfyrwyr Cymru i wireddu eu potensial i greu busnesau newydd ac arloesol (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) a bwydo i mewn i’r gefnogaeth sydd ar gael gan Wasanaeth Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad 13

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dysgu oddi wrth gronfeydd buddsoddi eraill ac yn adolygu’r cymorth ariannol mae’n ei gynnig i fentrau cymdeithasol er mwyn bodloni eu hanghenion yn fwy priodol o ran cymorth i ddechrau a datblygu. Dylai’r adolygiad hwn gynnwys cynigion ar gyfer gwella gwybodaeth rheoli ariannol mentrau cymdeithasol fel eu bod yn fwy hyderus wrth wneud cais am fenthyciadau masnachol a chyllid ecwiti.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol (CIF) yn gynllun benthyg trydydd sector sydd wedi’i ariannu i ddarparu benthyciadau i sefydliadau trydydd sector yn ardal gydgyfeirio Cymru. Daeth yn weithredol ym mis Rhagfyr 2011.

 

Gellir defnyddio arian benthyciad CIF i ariannu:

 

·         sefydliadau trydydd sector yn ceisio datblygu cytundebau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus;

 

·         costau datblygu prosiect ar gyfer sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys costau cyfalaf a chostau refeniw, llif arian a chyfalaf gweithio;

·         llif arian a chostau cyfalaf/refeniw tra bod gallu masnachu a chynhyrchu incwm yn cael ei ddatblygu;

·         prynu a/neu ddatblygu asedau eiddo;

·         prynu asedau eraill sy’n hanfodol ar gyfer datblygu gweithgareddau masnachu’r sefydliad.

 

Gellir darparu gwerth hyd at £250,000 o fenthyciad i sefydliadau yn ardal gydgyfeirio Cymru dros fwyafswm o 25 mlynedd. Gellir cytuno ar delerau penodol, fel seibiant taliadau cyfalaf, lle bo prawf o’r angen.

 

Hefyd, gall CIF ddyfarnu grantiau hyd at £20,000 i sefydliadau er mwyn eu galluogi i fod yn ‘barod am fenthyciad’. Gall hyn gynorthwyo i dalu am astudiaethau dichonolrwydd, cefnogaeth broffesiynol neu ysgrifennu cynllun busnes lle bo angen na ellir ei ateb gan ddarparwyr cefnogaeth eraill. Nod y grant yw sicrhau bod sefydliadau’n ‘barod am fenthyciad’, felly rhaid dangos o’r cychwyn bod angen benthyciad yn y dyfodol.  Gellid defnyddio grant CIF er mwyn helpu i ddechrau busnes sy’n derbyn cymorth ond sydd angen hwb ariannol i gyflawni darn penodol o waith. Gellid defnyddio’r grant i brynu cefnogaeth neu dalu aelod o staff dros gyfnod byr. Fodd bynnag, i fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth grant CIF rhaid iddi fod yn amlwg y byddai buddsoddiad y benthyciad yn briodol i helpu’r sefydliad i dyfu yn y dyfodol.

 

Mae Menter Datblygu Economaidd Cymunedau Lleol (Cymunedau Mentrus) yn brosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop).

 

Nod y prosiect yw darparu cefnogaeth ymarferol i sefydliadau trydydd sector er mwyn eu helpu i symud tuag at fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol. Mae is bennawd y prosiect yn crynhoi ei bwrpas fel “tyfu mentrau cymdeithasol lleol”. Ei nod yw arfogi sefydliadau i weithredu mewn ffordd fwy trefnus a chynhyrchu mwy o incwm eu hunain, gan gynnwys drwy ymgeisio ar gyfer a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y gefnogaeth hon yn cwmpasu materion datblygu sefydliadol a llywodraethu yn ogystal â datblygu a chefnogi gwirfoddolwyr.

 

Ymgymerwyd ag adolygiad o’r cyllid craidd i sefydliadau cefnogi mentrau cymdeithasol yn 2010 gan Old Bell 3 Ltd, er mwyn asesu addasrwydd trefniadau ariannu craidd wrth gefnogi twf a datblygiad mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ystod 2008-2011. Cyhoeddwyd yr adolygiad hwn yn 2011.

 

Gan adlewyrchu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu, cytunwyd ar arian craidd ar gyfer y tair blynedd nesaf i Ganolfan Cydweithredol Cymru - 2012/13 i 2014/15.  Cytunwyd ar arian craidd ar gyfer Social Firms Wales a Chymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru ar gyfer 2012/13.  Bydd adolygiad gwerth am arian yn cael ei gynnal ar gyfer trefniadau arian craidd Social Firms Wales; Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru (CMCC) i ysgogi opsiynau cyflawni yn y dyfodol.

Argymhelliad 14

Yn wyneb y cynnydd posibl yn y galw am gymorth ariannol, a chapasiti’r banciau presennol i ddarparu hynny, rydym yn credu bod lle i greu system ariannu bwrpasol ar gyfer y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn argymell, fel rhan o’r adolygiad ariannol yr ydym wedi sôn amdano uchod, bod Gweinidogion yn ymateb i’r cynnig am system ariannol bwrpasol drwy baratoi dadansoddiad cost a budd o’r opsiynau.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn mewn Egwyddor

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mae newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Ionawr 2012 i’r fframwaith deddfwriaethol sy’n llywodraethu Undebau Credyd yn ei gwneud yn bosib i’r Undebau Credyd gynnig rhai gwasanaethau ariannol i aelodau corfforaethol a phartneriaeth.

Yn y Fforwm Undebau Credyd dan nawdd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2012, edrychwyd ar y potensial i Undebau Credyd gefnogi busnesau cymunedol, ac mae’r gwaith hwn yn parhau. Mae grŵp cynghori wedi’i gasglu o’r sector cynhwysiant ariannol ac Undebau Credyd yn edrych ar fentrau y gellid eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd prosiect cyfredol Mynediad at Wasanaethau Ariannol drwy Undebau Credyd ym mis Medi 2013.

Rhaid i unrhyw argymhellion sy’n codi o’r grŵp hwn gynorthwyo Llywodraeth Cymru ymhellach i gyflawni ei hamcanion i Daclo Tlodi ac Allgau Ariannol, gan gefnogi Undebau Credyd i fod yn gynaliadwy ac economaidd hyfyw yn y tymor hir, heb fod yn ddibynnol ar gymorth parhaus gan y llywodraeth. Disgwylir i’r argymhellion bras gael eu cyflwyno i’w hystyried gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau erbyn Medi 2012.  

Argymhelliad 15

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru, i wella hygyrchedd, ansawdd ac argaeledd cymorth a chyngor busnes i sector y mentrau cymdeithasol, a sicrhau y gellir darparu cyngor ariannol a chyngor busnes o lefel uchel gyda’i gilydd mewn un lle fel pecyn cydlynol a chynhwysfawr i fentrau ledled Cymru er mwyn hwyluso eu twf.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad - Mehefin 2012

Mewn ymateb i’r Adroddiad Microfusnesau (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012) bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu Gwasanaeth Siop Un Stop a fydd yn cynnwys cynllun Mentora i fusnesau yng Nghymru (gan gynnwys mentrau cymdeithasol). Bydd mynediad at y gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo.

Yn ystod y cam datblygu bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr Mentrau Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y Siop Un Stop a’r Cynllun Mentora yn addas ar gyfer mentrau cymdeithasol.

 

Bydd y ddarpariaeth Siop Un Stop yn gweithio’n agos gyda darparwyr cefnogaeth arbenigol i Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2013 ac yn cael ei ategu gan ddarpariaeth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Argymhelliad 16

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod y rhaglen gyffredinol ar gyfer datblygu sgiliau’r gweithlu Cymreig yn diwallu anghenion amrywiol y sector mentrau cymdeithasol, yn enwedig wrth ddatblygu sgiliau craidd entrepreneuriaid masnachol, er enghraifft, drwy gymorth a mentora gan gyfoedion.

 

Ymateb Gwreiddiol: Derbyn

 

Diweddariad -  Mehefin 2012

Mewn ymateb i’r Adroddiad Microfusnesau bydd cynllun Mentora Cymru gyfan yn cael ei gweithredu o fis Ionawr 2013 ymlaen, yn gweithio’n agos gyda darparwyr gwasanaethau mentora gwirfoddol. Bydd corff cydlynu cyffredinol yn cael ei benodi i sicrhau darpariaeth, hyfforddiant a marchnata cyson o’r gwasanaethau sydd ar gael i’r holl fusnesau bach a chanolig ledled Cymru sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol.

 

Bydd rhaglen Hyfforddi a Mentora’r Adran Addysg a Sgiliau yn cychwyn ym mis Mehefin 2012. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer hyfforddwyr a mentoriaid, gan ddarparu cyfle i unigolion gael sgiliau a chymwysterau perthnasol i ddarparu cefnogaeth i reolwyr a busnesau, ac i hyfforddi eraill i fentora a hyfforddi o fewn eu sefydliadau. Ar y cyfan, gobeithir y bydd y rhai sy’n cyfranogi yn y rhaglen yn defnyddio’u sgiliau newydd i gefnogi unigolion o fewn eu sefydliadau a throsglwyddo eu dysg ymlaen i eraill drwy fframwaith mentora BETS. 

 

Mae ein hagwedd gyfredol at ddatblygu’r gweithlu yn gyson ledled pob sector ac mae hyn yn cynnwys y sector mentrau cymdeithasol.  Gall cyflogwyr sy’n fentrau cymdeithasol gyrraedd at wasanaethau ar yr un sail â chyflogwyr eraill o’r sector preifat. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys:

 

·    Rhaglen Datblygu Gweithlu, rhaglen hyblyg o gefnogaeth y gellir ei theilwra i gyflawni anghenion cyflogwyr unigol

 

·    Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth

 

·    Prentisiaethau gan gynnwys rhaglen Recriwtiaid Ifanc a Phrentisiaeth Fodern

 

·         Twf Swyddi Cymru i gynorthwyo cyflogwyr sy’n fentrau cymdeithasol i ehangu eu busnesau drwy recriwtio person ifanc di-waith

 

·    Recriwtio gan gynnwys cynlluniau hyfforddi cyn cyflogaeth a ReAcT.